CWRICWLWM
Cwricwlwm
Cyflwynwyd y newidiadau i'r Cwricwlwm Cenedlaethol yn 2008. Yn syml, mae'n cynnwys:
Y Pynciau Craidd- Saesneg, Cymraeg, Mathemateg a Gwyddoniaeth.
Y Pynciau Sylfaenol- Daearyddiaeth, Hanes, Ymarfer Corff, Dylunio a Thechnoleg, Addysg Grefyddol, Celf a TGCh.
Cyfnod Sylfaen- http://learning.gov.wales/resources/browse-all/foundation-phase-framework/?lang=en
CA2 - http://learning.gov.wales/resources/collections/key-stages-2-4?lang=en
Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd
Mae'r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol (FfLlRh) wedi ei gynllunio i helpu athrawon ymgorfforillythrennedd a rhifedd ym mhob pwnc i ddysgwyr rhwng 5 a 14 oed.
O fewn llythrennedd disgwyliwn dysgwyr i ddod yn fedrus yn:
• llafaredd ar draws y cwricwlwm
• darllen ar draws y cwricwlwm
• ysgrifennu ar draws y cwricwlwm.
O fewn rhifedd disgwyliwn i ddysgwyr i ddod yn fedrus yn:
• datblygu rhesymu rhifiadol
• defnyddio sgiliau rhif
• defnyddio sgiliau mesur
• defnyddio sgiliau data.
http://learning.gov.wales/resources/browse-all/nlnf/framework?lang=en#/resources/browse-all/nlnf/framework?lang=en
Fframwaith Cymhwysedd Digidol
Mae’r Fframwaith yn nodi’r sgiliau sydd eu hangen ar ddysgwyr i lwyddo mewn byd cynyddol ddigidol.
Mae cymhwysedd digidol yn un o 3 cyfrifoldeb trawsgwricwlaidd (y lleill yw llythrennedd a rhifedd). Mae’n canolbwyntio ar sgiliau digidol y gellir eu defnyddio mewn amrywiaeth eang o bynciau a sefyllfaoedd.
Cafodd y Fframwaith ei ddatblygu gan ymarferwyr o Ysgolion Arloesi gyda chymorth arbenigwyr allanol. Mae iddo 4 llinyn sydd cyn bwysiced â’i gilydd. Mae i bob llinyn nifer o elfennau.
Dinasyddiaeth – sy’n cynnwys:
- Hunaniaeth, delwedd ac enw da
- Iechyd a lles
- Hawliau digidol, trwyddedu a pherchnogaeth
- Ymddygiad ar-lein a seiberfwlio.
Rhyngweithio a chydweithio – sy’n cynnwys:
- Cyfathrebu
- Cydweithio
- Storio a rhannu.
Cynhyrchu – sy’n cynnwys:
- Cynllunio, cyrchu a chwilio
- Creu
- Gwerthuso a gwella.
Data a meddwl cyfrifiadu – sy’n cynnwys:
- Datrys problemau a modelu
- Llythrennedd gwybodaeth a data.
http://learning.gov.wales/resources/browse-all/digital-competence-framework/?skip=1&lang=cy
Trefn y Cwricwlwm
Blaenoriaethir y pynciau 'craidd' o fewn y Cwricwlwm Cenedlaethol - Cymraeg, Saesneg, Mathemateg, Gwyddoniaeth. Mae T.G.Ch. yn cael ei ddefnyddio fel y mae'n addas.
Integreiddir yn llawn elfennau addas o weddill y pynciau 'sylfaenol' - Hanes, Daearyddiaeth, Technoleg, Cerdd, Arlunio ac Ymarfer Corff - i'n hamserlen a'n themau.
Cofnodi Cynnydd
Er mwyn arddangos y cynnydd a wneir gan bob disgybl ymhob cyfnod o'r Cwricwlwm Cenedlaethol, bydd yr athrawon yn cadw cofnod o'r gwaith gorffenedig a'r lefelau a gyrhaeddir. Bydd y cofnodion hyn yn darparu gwybodaeth i athrawon, rhieni ac ysgolion eraill.
Bydd asesu o fewn y Cwricwlwm Cenedlaethol yn cynnwys: Asesu gan athrawes/athro.
Y Cyfnodau Allweddol ar gyfer asesu fydd tymor olaf y plentyn yn y Cyfnod Sylfaen a'i dymor olaf yn yr Adran Iau (Blwyddyn 6).