Ein Diwrnod Ysgol
Cyfnod Sylfaen |
8.50am - 12:00 |
1.15pm - 3.20 pm |
CA 2 |
8.50am - 12.15pm |
1.15pm - 3.20 pm |
GWAITH CARTREF
Gosodir Gwaith Cartref Llythrennedd a Rhifedd ddwy waith yr wythnos.
Dydd Mawrth - Mathemateg

Dydd Gwener - Iaith a Sillafu

Darllen - Pob dydd
Bydd pob disgybl yn cymryd rhan mewn gweithgareddau darllen yn ystod yr wythnos ac anogwn hwy i ddarllen yn rheolaidd gydag oedolyn adref. Carwn i rieni nodi sylwadau yng Nghofnod Darllen ei plentyn wedi iddynt ddarllen gyda hwy.

Ffrwyth
Gall eich plentyn brynu ffrwyth am 20 ceiniog yn ddyddiol o siop ffrwythau'r ysgol. Gall eich plentyn ddod a ffrwyth gydag ef/hi i'r ysgol pe dymunwch.

Chwaraeon
Bydd plant Blwyddyn 4 (Miss H Griffiths) yn cael eu gwersi Chwaraeon ar bnawn dydd Mawth a pnawn dydd Iau. Bydd angen dillad addas ar gyfer chwaraeon ar eich plentyn, sef siorts, crys-t ac esgidiau rhedeg neu wisg nofio addas.
Dydd Mawrth - Chwaraeon
Dydd Iau - Chwaraeon

Gwisg Ysgol
A wnewch chi sicrhau bod enw eich plentyn wedi ei labeli yn glir ar ei wisg/gwisg ysgol os gwelwch fod yn dda.

Oes oes gennych unrhyw gwestiwn neu ymholiad am unrhyw agwedd o waith ysgol neu les eich plentyn yna cysylltwch gyda ni.
Diolch
Miss Hayley Griffiths
******
Tymor y Gwanwyn
Ein thema ar gyfer y tymor yma ydy Ein Corff.
Yn ystod y tymor yma bydd ein gwaith yn canolbwyntio ar ein lles a iechyd personol a chymdeithasol. Byddwn yn astudio pynciau megis;
- Swyddogaethau rhannau'r corff
- Y Galon
- Yr Ysgyfaint
- Y Sgerbwd
- Dannedd
- Grwpiau bwyd
- Y Synhwyrau a'u pwysigrwydd yn ein bywydau pob dydd
Cawsom tridiau brysur llawn hwyl a sbri yn Llangrannog!


Yn rhan o'n gwaith thema buom yn ffosud iawn i gael ymweliad gan Mr Morgan i wneud gweithdy 'Cymorth Cyntaf. Dysgon llawer o bethau ddefnyddiol, diolch yn fawr iawn!



Edrychodd pawb yn arbennig i ddathlu Dydd Gwyl Dewi. Da iawn i bawb wnaeth cystadlu, roedd pawb wedi gwneud yn fendigedig!


Cawsom brofiad unigryw o weld a thrafod organnau oen yn y dosbarth fel rhan o'n gwaith Thema. Am fore diddorol!





Tymor yr Hydref
Ein thema ar gyfer yr hanner tymor yma ydy 'Dreigiau a Chestyll'.
Dyma rhai o'r gweithgareddau byddwn yn gwneud yn y dosbarth yn ystod yr hanner tymor;
- Ymchwilio i gestyll o gwmpas Cymru
- Ymweld â Chastell dinefwr
- Adeiladu cestyll allan o Lego, blociau a jync
- Dylunio dreigiau, cestyll ac arfwisg
- Edrych ar waith Paul Klees
- Mesur perimedr cestyll
- Defnyddio siapiau 2D i greu cestyll
- Mesur y pellter o'r ysgol i wahanol gestyll yng Nghymru
- Creu pamffledi i hysbysebu Cestyll Cymru
- Astudio'r arlunydd J.M.W Turner
- Cerddoriaeth ac offerynnau Canol Oesol
Yn ein gwersi Cymraeg fyddwn yn canolbwyntio ar chwedlau cymreig, gan ddechrau gyda'r chwedl leol 'Cae Sion Phylip'.
Yn ein gwersi Saesneg byddwn yn gweithio ar ddull 'Pie Corbett', gan ddechrau gyda stori 'Lazy Jack', ac yn dilyn y stori 'Fantastic Mr Fox' gan Roald Dahl.
****
Diolch yn fawr iawn i Mr Urdd am ddod i'n gweld ni i ddathlu diwrnod Coch, Gwyn a Gwyrdd. Roedd pawb yn edrych yn bendigedig wedi gwisgo yn lliwiau Cymru!
Da iawn i Hari ac Elan am ddod yn 2il ac yn 3ydd yng nghystadleuaeth llawysgrifen sioe Llansawel. Ymdrech arbennig blant!
Llongyfarchiadau mawr i Hari am ddod yn 1af yng nghystadleuaeth Sumdog Sir Gar. Da iawn a diolch i'r holl blant atebodd y cwestiynau. Daethom yn 9fed fel dosbarth. Gwaith wych!

Rydym wedi cael hwyl a sbri yn gwneud llanast yr wythnos yma yn creu addurniadau Nadolig i werthu yn ein Ffair Nadolig.





Dyma ein gwaith celf ar y stori 'The Dot'. Roedd yn diddorol iawn i weld yr amrywiaeth o bethau gall un smotyn du cael ei drawsmewid iddo.



Rydym wedi cael llawer o hwyl a sbri yn adeiladu cestyll allan o focsys a sbwriel. Diolch i bawb am eu cyfraniad caredig!


Ar ddydd Iau, Medi 14eg, buom ar ymweliad addysgiadol i Gastell Dinefwr. Cawsom y cyfle i ddysgu am hanes y castell drwy gwylio perfformiad bendigedig gan yr Arglwydd Rhys. Aethom am dro o gwmpas y castell, a chafodd y disgyblion cyfle i archwilio pob twll a chornel y castell! Mwynhaodd y plant mas draw!








